Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Medi 2024
Amser:
09.01 -
09.40
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Jane Hutt AS Darren Millar AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Lisa Griffiths (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Nododd y Pwyllgor Busnes fod Jack Sargeant a Vikki Howells wedi ymddiswyddo fel cadeiryddion y Pwyllgor Deisebau a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn y drefn honno, yn dilyn eu penodiadau i swyddi gweinidogol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai cadeiryddiaeth y ddau bwyllgor barhau i gael ei dyrannu i’r grŵp Llafur. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
· Enwebiadau ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau (5 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud) Symudwyd i 1 Hydref
· Cynnig i atal Rheolau Sefydlog (5 munud)
· Cynnig i gymeradwyo enwebu Cwnsler Cyffredinol (5 mun)
· Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru Gohiriwyd tan 24 Medi
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Yr economi werdd Tynnwyd yn ôl
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau rhynglywodraethol Gohiriwyd tan 24 Medi
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Blaenoriaethau'r Llywodraeth (60 munud)
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Tata Steel (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cyflogau’r sector cyhoeddus (45 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Glanhau ein hafonydd, llynnoedd a moroedd (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd (45 munud)
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai ffotograffydd yn bresennol yn y Siambr ar ddechrau’r cyfarfod ddydd Mawrth i dynnu ffotograffau o’r sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.15pm
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Dydd Mawrth 24 Medi 2024
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau rhynglywodraethol (45 munud) Gohiriwyd o 17 Medi
· Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru (45 munud) - gohiriwyd o 17 Medi
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn y GIG (45 munud)
·
Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg: Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion
cynradd (45 munud) –
symudwyd ymlaen i 17 Medi
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.79 i dynnu Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn ôl (30 munud)
Dydd Mercher 25 Medi 2024
·
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Economi, Ynni a Chynllunio 'r Gymraeg (45
munud)
Dydd Mawrth 1 Hydref 2024
· Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 mins)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Mwy o gartrefi i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: trochi yn y Gymraeg (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Pwysigrwydd y 1000 diwrnod cyntaf mewn bywyd plentyn – o genhedlu i 2 oed (45 munud)
Dydd Mercher 2 Hydref 2024
·
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet
dros Lywodraeth Leol a Thai a Chynllunio (45
munud)
Cytunwyd ar yr newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 25 Medi 2024 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Pedwerydd adroddiad ar ddeg i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)
·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Cyfoeth Naturiol Cymru -
Gwaith Craffu Blynyddol 2023-24 (60 munud) Gohiriwyd tan 2 Hydref
Dydd Mercher 2 Hydref 2024 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Cyfoeth Naturiol Cymru - Gwaith Craffu Blynyddol 2023-24 (60 munud)
Dydd Mercher 9 Hydref 2024 –
Nododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen newydd ar gyfer Cwestiynau Llafar i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol
Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:
Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch adolygiad cynhwysfawr o’r broses cydsyniad deddfwriaethol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drafod opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen â’r gwaith hwn wrth gytuno ar ei flaenraglen waith weithdrefnol mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr ac ei fod wedi cytuno i gynnig gwelliannau i eiriad Rheol Sefydlog 29.1 i’r Senedd.
Nododd y Pwyllgor hefyd y gellid ystyried Rheol Sefydlog 30A o fewn unrhyw adolygiad ehangach o'r cydsyniad deddfwriaethol a'r prosesau cysylltiedig y gall y Pwyllgor Busnes benderfynu ymgymryd â nhw wrth gytuno ar ei flaenraglen waith weithdrefnol mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr. Cadarnhaodd y Trefnydd fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r gyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr 2024.
Trafododd y Pwyllgor Busnes gais gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru i’r Pwyllgor hwnnw gael slot cyfarfod parhaol o fewn amserlen y Pwyllgorau.
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr opsiynau posibl ar gyfer cael slot i’r Pwyllgor o fewn yr amserlen bresennol a nododd y byddai angen ystyried newidiadau disgwyliedig i aelodaeth pwyllgorau mewn unrhyw benderfyniad. Nododd y Pwyllgor Busnes mai slot cyfarfod ar ddydd Llun yw'r ateb gorau ar hyn o bryd ond cytunodd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod canlynol.
Trafododd y Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Deisebau a chytunodd i drefnu dadl ar ddeiseb P-06-1456: Ymchwiliad cyhoeddus llawn i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng nghanolbarth a gogledd Cymru
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i’w Aelodau gael eu hesgusodi o’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 2 Hydref er mwyn ymgymryd â busnes y Pwyllgor.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad, ac iddo gael ei osod, a chynnig i’r Senedd gytuno ar y newid i’r Rheolau Sefydlog i’w gyflwyno i’w drafod ddydd Mercher 25 Medi 2024.
Trafododd y Pwyllgor Busnes weithrediad y canllawiau presennol ar drafodion rhithwir a hybrid, gan gynnwys materion yn ymwneud â’r lleoliadau lle gall Aelodau ymuno â thrafodion y Cyfarfod Llawn a’r gallu i fodloni niferoedd uchel o Aelodau sy’n ymuno o bell yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Nododd y Pwyllgor rinweddau trafodion hybrid ond roedd yn cydnabod yr heriau y gall hyn eu cyflwyno weithiau ar gyfer cadeirio cyfarfodydd a'r angen i sicrhau proffesiynoldeb bob amser. Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd fod Fforwm y Cadeiryddion wedi nodi awydd i wneud rhai newidiadau i agweddau ar y canllawiau sy'n ymwneud â thrafodion pwyllgorau.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y materion a godwyd gyda'u grwpiau ac i ddychwelyd at drafodaeth bellach ynghylch gwelliannau posibl i’r canllawiau mewn cyfarfod yn y dyfodol.